75 mlynedd ar ôl llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth ar 8 Medi 1936 a charcharu Saunders Lewis, D J Williams a Lewis Valentine, mae'r hanes yn dal i fod yn un dramatig. Roedd y Tân yn Llyn yn ddigwyddiad eiconig ac yn drobwynt i'r mudiad cenedlaethol yng Nghymru. Digwyddiad sy'n parhau i fod yn ysbrydoliaeth i lawer wrth barhau â'r frwydr i ennill rhyddid cenedlaethol a sicrhau dyfodol y Gymraeg.
Dyma gyfrol afaelgar, gyda lluniau cofiadwy, sy'n adrodd am ddigwyddiadau cyffrous a chynnwrf y cyfnod - y protestio a'r cydgynllwynio, y paratoadau manwl cyn gweithredu, yr achosion llys yng Nghaernarfon a'r Old Bailey a charcharu'r Tri yn Wormwood Scrubs.