Does dim cylchgrawn tebyg i LOL, na llyfr chwaith fel y llyfr hwn, sy'n gasgliad o'r cartwnau a'r straeon a'r dychan a'r cerddi gorau a gyhoeddodd y cylchgrawn dros yr hanner canrif diwethaf. Mae hefyd yn cynnwys sylwadau craff ar y deunydd ysgafala - a rhestrau o'r prif ddigwyddiadau yng Nghymru a'r byd fesul blwyddyn.
Yn ogystal, felly, â bwceidiau o chwerthin iach, dyma lyfr sy'n cynnig darlun difyr a gwahanol o helyntion a phersonoliaethau amlwg Cymru ers y chwedegau. Yn gofnod unigryw o gyfnod unigryw yn ein hanes, mae'n llyfr i'w gadw ac i'w roi'n anrheg.