Dyma gyfieithiad o'r nofel "Ffydd, Gobaith, Cariad" gan Llwyd Owen.
Gorffennol. Presennol. Dyfodol. Mae popeth yn gysylltiedig. Mae Alun Brady, dyn ar drothwy ei 30 oed, wedi byw bywyd tawel, di-nod a chysgodol yng nghartref crand ei rieni yn un o faestrefi mwyaf cefnog Caerdydd. Ond, pan ddaw Patrick, ei dad-cu drygionus, i fyw ac i farw yng nghartref Alun a'i rieni dyma ddechrau newidiadau enfawr ym mywyd y dyn ifanc.
Yn llawn cymeriadau lliwgar, plotio gwreiddiol a diweddglo cofiadwy, mae "Ffydd Gobaith Cariad" yn esblygiad naturiol o nofel gyntaf yr awdur, "Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau".
Wedi ei ysgrifennu yn gyfan gwbl trwy lygaid Alun, mae'r nofel yn rymus gyda datblygiadau annisgwyl ac anhygoel. Gan archwilio themau cyfoes, mae "Ffydd Gobaith Cariad" yn nofel am undonedd bywyd a'r pethau bach (a mawr) sy'n tarfu ar y tawelwch.