Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Robin Mcbryde

Robin Mcbryde

Ganed Robin McBryde ym Mangor ond magwyd ar Ynys Môn. Chwaraeodd i Glwb Llanelli, a buodd yn gapten ar y tîm yn 1998 pan enillodd y clwb y Cwpan Cymraeg, ac eto yn 1999. Chwaraeodd 250 o gemau i Lanelli a'r Scarlets rhwng 1994 a 2005. Enillodd 37 cap dros Cymru fel bachwr rhwng 1994 a 2005, a dewiswyd o fod yn rhan o dîm y Llewod Prydeinig a Gwyddelig yn 2001, ond methodd chwarae oherwydd anaf. Ymddeolodd o rygbi ar ôl triniaeth ar ei gefn. Gweithiodd fel hyfforddwr i tîm dan 18 y Scarlets, cyn cael ei apwyntio'n hyfforddwr y blaenwyr i'r tîm cenedlaethol Cymraeg. Enillodd Robin cystadleuaeth 'dyn cryfaf Cymru' yn 1992. Yn 2007, ddaeth yn Ofalwr am Gleddyf yr Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

https://en.wikipedia.org/wiki/Robin_McBryde

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Y Cymro Cryfa

- Robin Mcbryde
£9.95

Staying Strong: My Story So Far

- Robin Mcbryde
£9.95