Cyfieithiad o "Y Cymro Cryfa".
Bu ennill gwobr "Y Cymro Cryfa" yn boendod parhaus i Robin McBryde - cafodd ei herio a'i atgoffa o'r peth ar hyd ei yrfa. Ond atebodd bob her a goroesodd nifer fawr o rwystrau i gyrraedd y brig gan ddangos cryfder cymeriad tu hwnt i'r cyffredin.
Fel un o'r ychydig chwaraewyr o Sir Fon i lwyddo ar lefel uchaf rygbi rhyngwladol dangosodd ymroddiad llwyr i'r gem, o'i gyfnod cychwynnol yng nghlybiau Porthaethwy a'r Wyddgrug, a'i lwyddiant gydag Abertawe a Llanelli.
Er iddo dreulio cyfnodau ar y fainc o dan Mike Ruddock yn Abertawe a diodde sawl anaf, profodd ei amheuwr yn anghywir gan ddod yn un o fawrion y gem yng Nghymru. Fel capten Llanelli am ddau dymor enillodd filoedd o edmygwyr, a dangosodd ei ddawn a'i gryfder i'r eithaf gyda'r tin cenedlaethol a'r Llewod.
Yn ei hunangofiant mae'n agor y llen ar uchelfannau ac iselfannau ei yrfa, yn cynnwys gorfoledd y Gamp Lawn, rhwystredigaeth gyda'r Llewod, argyfwng Ruddock, a'i orfoledd wrth gael ei benodi'n un o hyfforddwyr allweddol carfan Cymru.