Dewi Pws Morris
Roedd y diweddar Dewi Pws yn fwyaf adnabyddus fel actor, canwr a thynnwr coes heb ei ail ond roedd hefyd yn fardd, awdur, cyflwynydd, cyfansoddwr ac ymgyrchydd iaith.
Ymddangosodd mewn amryw o gynyrchiadau teledu, gan gynnwys yr operâu sebon Pobol y Cwm a Rownd a Rownd, ac yn y ffilm deledu eiconig, Grand Slam.
Dewi Pws, fel yr oedd pawb yn ei adnabod ers blynyddoedd, oedd prif leisydd y grŵp Y Tebot Piws.
Aeth ati wedyn, gyda Hefin Elis, i sefydlu'r supergroup Cymraeg cyntaf - y band roc chwyldroadol, Edward H Dafis.
Dewi Pws wnaeth gyfansoddi Lleucu Llwyd - un o ganeuon mwyaf poblogaidd Y Tebot Piws - a Nwy yn y Nen, cân fuddugol Cân i Gymru 1971.
Fe berfformiodd hefyd gyda'r band pync-gwerin Radwm ac ymddangos ar lwyfan gyda'r band gwerin Ar Log.
Bu farw Dewi ym mis Awst 2024.
LLYFRAU GAN YR AWDUR
1-6 o 7 | 1 2 | |
Cyntaf < > Olaf |