Mae tafarnau'n bodoli ers bod syched ar bobol - a chyn hynny yng Nghymru!
Dilynwch Alun Gibbard a Dewi 'Pws' Morris ar grwydr o amgylch rhai o dafarnau mwya' poblogaidd Cymru i glywed yr hanesion lliwgar trwy eiriau'r dynion a'r menywod sy'n tynnu'r peints a'r yfwyr lleol wrth y bar.
Ble fyddech chi'n clywed swn gang afreolus y Gwylliaid Cochion? Beth ddigwyddodd i forfil enwog y ffilm Moby Dick? Pwy oedd cariadon mwya' rhamantus Cymru? A ble mae'r dafarn a ddefnyddiwyd gan y dringwyr oedd yn ymarfer i goncro Everest am y tro cynta'?
O'r Pic yn Rhydaman i'r Ship yn Abergwaun, y Ring yn Llanfrothen a'r Black Boy yng Nghaernarfon, mae'r storiau sy'n perthyn i dafarnau Cymru'n adleyrchu sut mae hanes ein gwlad wedi newid a datblygu gyda llanw a thrai amser.
Felly, ymunwch ag Alun Gibbard a dewi Pws a chymeriadau'r gyfres deledu boblogaidd Straeon Tafarn i ddysgu, dathlu, cymdeithasu, chwerthin - a chodi dam gwd peint a dymuno "Iechyd Da!"