Geraint Lovgreen
Treuliodd Geraint flynyddoedd plentyndod a llencyndod ym Mhen-y-ffordd, Wrecsam a'r Drenewydd cyn mwynhau pedair blynedd colegol yn Aberystwyth. Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon ers dros hanner ei fywyd ac yn dad i dri o blant a thaid i bedwar o wyrion. Mae wedi dilyn timau pêl-droed Wrecsam a Chymru drwy'r blynyddoedd ac wedi rhannu ei amser hamdden rhwng pêl-droed a chyfansoddi caneuon i'w perfformio efo'i grŵp Geraint Løvgreen a'r Enw Da.