'Y llyfr Cymraeg gorau erioed am glwb Pêl-droed Wrecsam' - Rob McElhenny *
'Duw a'm gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon' - Ryan Reynolds **
Yn frodor o Wrecsam, mae Geraint Lovgreen yn ganwr a chyfansoddwr caneuon sydd wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon ers dros ddeugain mlynedd.
Dyma'i gofnod personol iawn o hanes clwb pêl-droed Wrecsam dros yr hanner canrif diwethaf, o iselfannau'r 1960au i uchelfannau oes aur y 1970au, ac o waelodion pêl-droed 'non-league' yn y mileniwm yma i'r oes aur newydd dan reolaeth annhebygol dau actor byd-enwog o Ganada a'r Unol Daleithiau. Mae wedi bod yn daith a hanner, a dyma Geraint rŵan yn ei rhannu efo'r byd!
*Mae'n bosib mai breuddwydio'r dyfyniad yma wnes i.
**Neu T.H. Parry-Williams, wyrach, dwi wastad yn cymysgu rhwng y ddau.