I.D. Hooson
Ganed Isaac Daniel Hooson, 1880-1948, bardd, yn Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych. Bu'n gyfreithiwr yn Wrecsam, ond ysgrifennodd hefyd farddoniaeth i'r cylchgrawn Cymru. Dim ond un casgliad o'i farddoniaeth a gyhoeddodd yn ystod ei oes, sef Cerddi a Balediin 1936. Ysgrifennodd hefyd addasiad Cymraeg o The Pied Piper of Hamlinunder dan y teitl Y Fantell Fraith yn 1934. Yn dilyn ei farwolaeth cyhoeddwyd ail gasgliad o'i waith yn 1948 , sef Y Gwin a Cherddi Eraill. Mae'r cerddi a ysgrifennwyd gan I.D. Hooson i blant ymhlith ei fwyaf adnabyddus.