Y Gwin a Cherddi Eraill
Casgliad o 38 o gerddi a baledi'r bardd Isaac Daniel Hooson (1880-1948) a ddisgrifiwyd fel 'Cyfaill i blant Cymru'. Cynhwysir cerddi megis 'Y Gwin' a 'Glas y Dorlan', 'Yr Hen Lofa' a 'Seimon, Mab Jona', 'Y Pabi Coch', 'Y Geni' a 'Y Doethion', 'Y Band Undyn' a 'Y Bwgan Brain'.