Mary Lloyd Jones
Yn enedigol o Bontarfynach, Ceredigion fe'i hyfforddwyd yn Ysgol Ramadeg Ardwyn a Choleg Celf Caerdydd. Mae hi'n un o artistiaid amlycaf Cymru ac wedi cynnal 46 o arddangosfeydd unigol yn ystod ei gyrfa gan gynnwys rhai yn yr Eidal, Efrog Newydd a'r Almaen. Mae hi'n ddarlithydd ac athrawes frwdfrydig ac yn genhadwr egniol dros y celfyddydau gweledol yng Nghymru.