Marged Elen Wiliam
Cafodd Marged Elen Wiliam ei magu ym Mangor, cyn dilyn cwrs Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng Ngholeg King's, Llundain. Ar ôl graddio bu'n gwirfoddoli mewn pentref yn Rajasthan, India, ac yna ddilyn cwrs ôl-radd yng Nghaergrawnt mewn Astudiaethau De Asiaidd Fodern. Roedd ennill Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen ynghyd ag ennill cystadleuaeth stori fer cylchgrawn Cara yn hwb iddi gymryd ysgrifennu yn fwy o ddifrif.