Elgan Rhys
Cafodd Elgan Rhys ei fagu ym Mhwllheli, ac mae'n byw yng Nghaerdydd ers degawd. Mae'n gweithio yn bennaf ym maes theatr, fel awdur (Woof), perfformiwr (Chwarae) a chyfarwyddwr (Llyfr Glas Nebo). Ei rôl fel awdur, rheolwr creadigol a golygydd cyfres Y Pump yw ei brosiect cyntaf yn y sector cyhoeddi.