Damian Walford Davies
Mae Damian Walford Davies yn Bennaeth Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n awdur 3 chasgliad o farddoniaeth a nifer o lyfrau ac erthyglau ar lenyddiaeth Saesneg a Chymraeg. Mae'r ddeialog rhwng barddoniaeth, celfyddydau gweledol a phensaernïaeth yn amlwg yn ei waith academaidd a chreadigol fel ei gilydd.