Paul White
Bu Paul White yn tynnu ffotograffau o adfeilion neuaddau, plastai a ffermdai Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Bu'n arddangos ei luniau ledled Cymru a gellid gweld ei waith mewn amrywiaeth o gasgliadau cyhoeddus a phreifat. Mae'n gweithio'n gyfan gwbl mewn du-a-gwyn, gan ddefnyddio camera maes pren a wnaed yn Siapan a dulliau ffotograffig traddodiadol. Bu'n byw yn Nhregaron ers 1983 ac astudiodd ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf a Thechnoleg Caerfyrddin.