John Morris
Cafodd ei ethol i gynrycholi'r Blaid Lafur yn 1959 pan ddaeth yn Aelod Seneddol dros Aberafan, gan ddal y sedd honno tan iddo ymddeol yn 2001 - y cyfnod hiraf i unrhyw Aelod Cymreig. Fel aelod o'r Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi bu'n gwasanaethu dan ddeg arweinydd Llafur - o Hugh Gaitskell hyd at Jeremy Corbyn.
Bu'n dal rhai o'r swyddi uchaf yn y Llywodraeth a'r Wrthblaid, fel Twrnai Cyffredinol ac Ysgrifennydd Cymru, yn ogystal â swyddi gweinyddol eraill, a hynny mewn cyfnodau cythryblus, megis rhyfel yr hen Iwgoslafia, a bu'n teithio'r byd yn rhinwedd ei waith. Mae ei hanes yn croniclo cyfnod o 60 mlynedd yn y byd gwleidyddol, gan ddod â ni at y cyfnod mwyaf dadleuol oll, sef y posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd.