Mae John Morris yn ymfalchio yn ei wreiddiau yng nghefn gwlad Ceredigion, ond gwelwyd ef fel dafad ddu'r teulu gan iddo benderfynu dilyn gyrfa fel cyfreithiwr yn hytrach na ffermwr.
Cafodd ei ethol i gynrycholi'r Blaid Lafur yn 1959 pan ddaeth yn Aelod Seneddol dros Aberafan, gan ddal y sedd honno tan iddo ymddeol yn 2001 - y cyfnod hiraf i unrhyw Aelod Cymreig. Fel aelod o'r Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi bu'n gwasanaethu dan ddeg arweinydd Llafur - o Hugh Gaitskell hyd at Jeremy Corbyn. Cawn hanes ei berthynas â hwy yn ddiflewyn-ar-dafod.
Bu'n dal rhai o'r swyddi uchaf yn y Llywodraeth a'r Wrthblaid, fel Twrnai Cyffredinol ac Ysgrifennydd Cymru, yn ogystal â swyddi gweinyddol eraill, a hynny mewn cyfnodau cythryblus, megis rhyfel yr hen Iwgoslafia, a bu'n teithio'r byd yn rhinwedd ei waith.
Mae ei hanes yn croniclo cyfnod o 60 mlynedd yn y byd gwleidyddol, gan ddod â ni at y cyfnod mwyaf dadleuol oll, sef y posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd.