John Davies
Ganed John Davies yn Llwynypia ond symudodd i Bwlchllan, Ceredigion ar ol marwolaeth ei dad pan oedd yn 11 oed. Addysgwyd yng Nghaergrawnt a Chaerdydd. Roedd John Davies yn un o haneswyr amlycaf Cymru. Dechreuodd ei yrfa ym Mhrifysgol Abertawe, cyn symud i Brifysgol Aberystwyth, lle cafodd y dyletswydd o fod yn warden cyntaf Neuadd Pantycelyn am 18 mlynedd. Yn 1962 ddaeth yn ysgrifennydd cyntaf ar y cyd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ysgrifennodd sawl cyfrol swmpus yn cynnwys yr enwog Hanes Cymru. Bu'n sylwebydd a chyflwynydd cyson ar y teledu. Ar ol ymddeol, symudodd i Gaerdydd. Bu farw John Davies yn 2015.