Dyma hunangofiant diflewyn ar dafod, yn llawn emosiwn a hiwmor y prop a'r ffermwr o ogledd Sir Benfro.
Enillodd John Davies 34 cap dros Gymru fel prop pen tyn, ar adeg pan fu newidiadau dramatig o fewn y gamp. Bu'n cyfuno gwaith caled fferm Cilrhue â theithio ddiddiwedd i'r Gnoll, gan rannu'r daith â dau gymeriad arall "Triawd y Buarth" rheng flaen Castell-nedd, pan oedd y tîm hwn ar ei anterth.
O'i ddyddiau yn Ysgol y Preseli, dringodd i rengoedd uchel y byd rygbi, gan chwarae i Glwb Rygbi Crymych a thimau ieuenctid Sir Benfro a Chymru, cyn ymuno â Chastell-nedd, a chwarae dros ei wlad. Pan drodd y gêm yn broffesiynol cafodd gynigion gan glybiau ar draws Ewrop, a dewisodd Richmond yn y pen draw, gan orfod gwneud penderfyniadau anodd iawn yn sgil hynny. Bu'n teithio'r byd a chael profiadau emosiynol ar hyd y ffordd. Dychwelodd i Gymru ac at y Scarlets wedyn, a oedd yn dân ar groen ambell un a arferai ei gefnogi yng nghrys du Castell-nedd!
Mae dycnwch a nerth y prop o Foncath wedi galluogi iddo chwarae rygbi bron yn ddi-dor am 27 mlynedd. O feddwl ei fod yn dal i chwarae, ac yn gapten ar glwb Crymych yn nhymor 2012/13, mae'n fwy rhyfeddol fyth.