Plaid Cymru 'wedi derbyn £25,000 gan Gaddafi' meddai Carl Clowes
Daw'r darganfyddiad o hunangofiant Carl Clowes Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia - a Fi a gyhoeddir yr wythnos hon.
Ymunodd Carl Clowes gyda dirprwyaeth o aelodau Plaid Cymru, gyda Brian Morgan Edwards, Phil Williams a John Lewis, ar daith i Libya yn 1976. Cynigodd un o'r tywysyddion bod modd rhoi cyfraniad ariannol i'r blaid.
'Yr hyn oedd yn annisgwyl oedd natur y sgwrs tua diwedd y daith, pan gynigiodd ein tywysydd weld
faint o gyfraniad y byddai modd i heddychwr fel ni eu derbyn ar gyfer ei brwydr hwy am annibyniaeth, rhywbeth roedd Cyrnol Gaddafi yn coleddu fel ffordd o herio'r drefn yn y Gorllewin,' meddai Carl Clowes.
Daeth i'r wyneb wedyn bod £25,000 wedi cyrraedd coffrau Plaid Cymru.
Meddyg, is-gennad, gwladgarwr ac entrepreneur cymdeithasol' nad yw'n ofn dweud ei ddweud' yw Carl Clowes.
Symudodd Carl Clowes o'i swydd arbenigol ym Manceinion i bractis un dyn yn Llŷn yn 1970 er mwyn i'r teulu gael eu magu mewn cymuned wledig a Chymraeg. Yno y gwelodd gymuned a'i phoblogaeth yn dirywio ac iechyd y fro yn dioddef.
'Gweledigaeth o'r newydd a deffroad bersonol ac oesol yn y perthynas rhwng amgylchiadau byw ac iechyd pobl wnaeth fy arwain i at newid gyrfa ac arbenigo mewn meddygaeth gymdeithasol' eglurodd Carl.
Roedd bygythaid y byddai ysgol pentref Llanaelhaearn yn cau ac roedd angen mawr am gyfleoedd gwaith os oedd yr ardal am oroesi. Dyna ddechrau sawl menter y maent yn cynnwys sefydlu canolfan iaith Nant Gwrtheyrn yn 1982, a bellach gwelwyd rhyw 30,000 o bobl yn ymdrochi yn yr awyrgylch unigryw.
Bu Carl Clowes ynghlwm â sawl brwydr ieithyddol gan gynnwys dod â chyrff at ei gilydd i ymgyrchu i sicrhau undod o blaid Deddf Iaith Newydd.
Bu hefyd yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn etholaeth Maldwyn yn 1979, 1983 ac 1987.
'Wedi imi ddeffro i`r ffaith mai gwleidyddion sydd yn y sefyllfa gorau i ddylanwadu ar iechyd cymdeithas, fentrais i`r byd gwleidyddol yn San Steffan tair gwaith ym Maldwyn,' meddai Carl, 'Cefais gyfleon diddorol a difyr tu hwnt ond heb lwyddiant etholiadol'.
Bu hefyd yn ymgyrchydd brwd yn erbyn Wylfa B gan lunio 'Maniffesto Môn – yn sicrhau gwaith cynaliadwy ar Ynys Môn'.
Arweiniodd yr efeillio rhwng Cymru a Lesotho yn 1985 gan sefydlu a chadeirio Dolen Cymru– y ddolen gyntaf o'i fath yn y byd. Bellach, mae'n Is-gennad Anrhydeddus Lesotho yng Nghymru. Bu Carl hefyd yn gweithio tu allan i Gymru ar gyfer y trydydd sector mewn gwledydd megis Siberia, Cambodia, a Mizoram yn India.
Mae wedi ei anrhydeddu gyda'r Wisg Wen gan yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfraniad yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'n briod a Dorothi ac mae ganddyn nhw bedwar o blant – Dafydd, Rhiannon, Angharad a Cian. Mae Dafydd a Cian yn aelodau o grŵp y Super Furry Animals.