Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Enillydd gwobrau comedi a'i nofel am goleg Aber yr 80au

Fel cynhyrchydd rhaglenni mae Sioned Wiliam wedi ennill gwobrau ac wedi gweithio â rhai o sêr mwyaf y diwydiant comedi. Nawr, mae wedi rhoi ei dawn ar waith unwaith eto trwy lunio nofel ffraeth am fywyd yng Ngholeg Aber yn yr 80au.

Dyddiau da tair myfyrwraig yw prif thema y nofel newydd a gyhoeddir yr wythnos hon gan Y Lolfa. Ac fel cyn-fyfyrwraig, fe fu Sioned yn tynnu ar ei phrofiad ei hun yn y brifysgol yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae’r nofel eisoes wedi cael ei chanmol gan un o’i chydfyfyrwyr, yr actores Rhian Morgan a ddisgrifiodd Cicio’r Bar fel ‘Y dwys, y doniol a’r despret… A’r mwyaf o’r rhain yw’r despret. Mae’r 80au yn dod yn fyw mewn caleidosgop o liwiau, ac yn ennyn hiraeth am ddyddiau da dros ben.’

Mae’r nofel yn dilyn ôl traed Anwen, Delyth a Nia wrth iddyn nhw fwrw ymlaen i ddysgu ac ymdopi â’r da a’r drwg ym mywyd Coleg. Mae Anwen o fferm yn Llambed ac yn methu aros i ddychwelyd i ryddid a mwynhad bywyd Aberystwyth. Mae Delyth yn dod o deulu cefnog ac uchelgeisiol ond nid yw’n teimlo ei bod hi’n perthyn. Mae Nia’n fyfyriwr meistr o Gaerdydd – yn gydwybodol ac yn drefnus, ond a fydd hi’n gallu dygymod â byw i ffwrdd o adre?

Mae’r dair yn llawn gobeithion ac yng nghanol y berw bydd sawl tro annisgwyl. Mae Sioned ei hun yn gyfarwydd iawn â byd myfyrwyr Aberystwyth wedi iddi ennill gradd Ddrama o’r brifysgol. Mae hefyd yn adnabod ei thraddodiadau unigryw fel cerdded y prom a chicio’r bar wrth gyrraedd y pen, sef ysbrydoliaeth teitl y nofel. Ond mae Sioned yn datgan nad yw’r cymeriadau’n seiliedig ar ei phrofiadau hi yn uniongyrchol.

‘Does dim tebygrwydd neilltuol rhyngddo i a’r cymeriadau er efallai fod rhywbeth ohonof yn y dair ohonynt!’ meddai Sioned.

Cicio’r Bar yw trydedd nofel Sioned ac mae’n dilyn llwyddiant Dal i Fynd (2013) a Chwynnu (2015), a gafodd ganmoliaeth uchel gan bobol fel Bethan Gwanas a ddisgrifiodd llyfr cyntaf Sioned fel ‘Tonic o nofel! Wedi chwerthin yn uchel ond yn agos at ddagrau weithiau hefyd.’

Mae’r awdures yn gobeithio bydd Cicio’r Bar yn ateb yr angen am lyfrau ffraeth, ysgafn yn y Gymraeg.
‘Trio sgrifennu rhywbeth doniol ydw i,’ meddai Sioned Wiliam. ‘Rhywbeth rhwydd i’w ddarllen sydd yn hapus, hiraethus a hwyliog.’

Ganwyd Sioned Wiliam yng Nghaerfyrddin ac fe’i magwyd yn y Barri. Mae bellach yn byw yn Llundain ac yn enw cyfarwydd ym myd comedi teledu Prydain. Yn gyn-bennaeth comedi rhwydwaith ITV, mae hi nawr yn Gomisiynydd Comedi i BBC Radio 4.