Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

O'r Gwlân i'r Gân - hunangofiant Aled Wyn Davies

“Mae’n deimlad arbennig cael dweud fy stori mewn cyfrol fel hon – rhywbeth na feddyliais i fyth y bydden i’n ei wneud yn 46 blwydd oed. Ond wedi blynyddoedd o gystadlu mewn gwahanol feysydd a chael profiadau lu wrth deithio’r byd, roedd o’n amser delfrydol i gofnodi f’atgofion cyn i mi eu hanghofio!” Aled Wyn Davies. 

Mewn cyfrol hwyliog a llawn hiwmor, mae’r ffarmwr a’r canwr Aled Wyn Davies, neu Aled Pentremawr fel mae’n cael ei adnabod, yn rhannu ei brofiadau a’i anturiaethau rhyngwladol, gan fynd â’r darllenydd ar daith o’r byd amaeth i’r byd canu – O’r Gwlân i’r Gân.

Daw i’r amlwg yn fuan mai ym mhentref Llanbryn-mair a fferm Pentremawr mae Aled yn mwynhau, yng nghanol ei ddiadell o ddefaid penwyn Cymreig. Cawn ddysgu am ei fagwraeth hapus ar yr aelwyd, cysylltiad y fferm â’r bardd Cynddelw Brydydd Mawr a sut mae Aled yn lwcus ei fod o’n dal yn fyw yn dilyn sawl tro trwstan yn ei fywyd!

Yn gneifiwr o fri, mae Aled yn rhannu ei brofiadau difyr yn y maes. Cawn fwynhau’r daith o’r sioe leol yn Llanbryn-mair i ddarganfod ei ochr gystadleuol a mynd ymlaen i ennill gwobr goffa ei ffrind Huw Harding yn y Sioe Frenhinol.

Fel nifer o bobl ifanc cefn gwlad, mae Aled yn cydnabod cyfraniad y Clybiau Ffermwyr Ifanc. Yn aelod o Glwb Bro Ddyfi, mae’n rhannu’r profiadau difyr; o’r cyfle i ddatblygu fel canwr i arbrofi yn y maes actio a’r deuawdau doniol. “Dating agency cefn gwlad yw’r Clybiau Ffermwyr Ifanc,” meddai Aled, ac fe glywn y stori ryfeddol am sut cwrddodd â’i wraig Karina a rhoi’r sws gyntaf iddi ar lwyfan Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc!

Karina, ei wraig, sydd wedi cydolygu’r gyfrol: “Mae wedi bod yn sialens ddiddorol i weld Aled yn eistedd yn llonydd am newid, wrth iddo fynd ati i nodi uchafbwyntiau ei fywyd ar bapur! Dwi’n ei ganmol yn fawr am ysgrifennu’r gyfrol gyfan ei hun – er bod ychydig o waith golygu wedi bod arni ar ôl iddo orffen! Ces ambell sioc wrth ddarllen am ei hanes, ond does dim byd yn fy synnu bellach am Aled o ystyried fy mod wedi cyd-fyw ag e am ugain mlynedd bron erbyn hyn!”

Cawn fwynhau ei brofiadau lu yn y maes canu. O’r perfformiad cyntaf yn bedair blwydd oed ar lwyfan y capel yn Llanbryn-mair i berfformio yn rhai o brif neuaddau Prydain a’r byd, gan rannu llwyfan gydag enwogion megis Bryn Terfel. Cawn ddysgu sut oedd ennill y Rhuban Glas yn sbardun i deithio’r byd a chanu ar fordeithiau crand o Bangkok i India. Bydd cyfle i ddysgu am ei hanes yn canu mewn grwpiau megis Traed dan Bwrdd ac yn fwy diweddar fel aelod o Tri Tenor Cymru, gyda Rhys Meirion ac Aled Hall.

Mae Aled yn sôn droeon am y croeso anfarwol a gafodd gan Gymdeithasau Cymreig yn fyd eang. Cawn ddysgu am y cyfnodau hapus wrth berfformio i gymdeithasau o Gymry yng ngogledd America a thu hwnt, a’r ffaith mai papur newydd Ninnau yng Ngogledd America wnaeth ei ysbrydoli i aros adref i ffarmio, yn hytrach na mentro fel canwr llawn-amser. 

“Mae fy nghalon wedi bod yma yn y byd amaeth yng nghanolbarth Cymru erioed, a bydde angen rhywbeth go fawr i’m denu i fyw mewn dinas brysur, ymhell o harddwch a mwynder Maldwyn. Dwi’n caru’r ffaith fy mod yn gallu cyfuno’r canu a’r ffarmio a chael cydbwysedd rhwng y ddau gyfrwng.” 

Cawn ddod i adnabod teulu Pentremawr, a’i blant ei hun. Aria, ei ferch, sy’n mwynhau rhannu llwyfan gyda’i thad, ac Aron, ei fab – “Storm o fachgen,” yn ôl Aled – a aned yn ystod ymarferion stori’r geni yn y capel lleol!

O’i gariad at dîm pêl-droed Lerpwl i ddal lleidr yng Nghaerdydd, o golli ei lais oherwydd sgileffeithiau dip defaid i’w helyntion yn L.A. gyda’i ffrind direidus Wini’r Goedol, a’r stori ddoniol am sut y bu bron iddo fethu un perfformiad oherwydd ei fod yn benderfynol o orffen ei bwdin! Mae rhywbeth at ddant pawb yn y gyfrol hon.