Ydych chi'n nabod Tina Thomas? Mae Bryn y Boncyn yn ei nabod hi, ond fe hoffai ei nabod yn well. Mae Antonio'r hync yn ei thrin hi'n achlysurol, ond dydi o ddim eisiau ei nabod hi go iawn. Mae Dr Richard Jones yn nabod pob modfedd ddeniadol ohoni, ond fiw i neb ddweud wrth ei Ddraig! Mae Ann a Gwennan, y ddwy sy'n rhannu fflat gyda Tina, yn nabod eu ffrind yn rhy dda. Ond ydi Tina'n nabod ei hunan?
Dewch i gwrdd â Tina Thomas, newyddiadurwraig rywiol sy'n ymdrechu'n galed i fwynhau bywyd - gyda'r dyn perffaith, neu hebddo. Dewch gyda hi ar sesh neu ddwy, ar benwythnosau cariadus gyda Dic, y Doc nwydwyllt, ac ar drywydd stori fawr allai newid ei bywyd am byth!