Dyma gyfle arall i chi - ac i amryw o rai eraill - ailafael yn Tina Thomas, y newyddiadurwraig nwydwyllt. Mae helyntion y criw lliwgar a welwyd yn Hogan Horni yn dod i'r wyneb unwaith eto; ond a oes blas gwahanol ar yr holl beth? Mymryn caletach? Mymryn dyfnach? Pawb fymryn hŷn, fymryn callach? Er ei doniau amlwg, mae safle Tina yn ei gwaith yn simsan, ond mae ei pherthynas â Dic y 'doc' yn dwysáu a gorwelion newydd yn ymagor. Ymwrthod ag anghenion ei Ddraig feichiog, temtasiwn nani, a swyn tafodau Eidalaidd a Sbaenaidd yw'r anhawster. Dyna rwydd yw llithro i mewn i drwbwl. Yng nghanol y romp a'r rhyw mae yma newid ym myd Tina a'i chydnabod. Mae Ann a Gwenan a Lyn yn chwilio am sicrwydd perthynas ac fe gyffyrddir pawb â phoen ingol. Ydi, mae bywydau pob un yn fwy cymhleth ond mae Tina wastad yn agored i dderbyn profiadau newydd. Byddwch yn barod, mae'r hogan horni'n dwad eto! Dilyniant i Hogan Horni yw Hogan Horni Isio Mwy