Stephen Owen Tudor
Yn dilyn ei brofiadau yn y Rhyfel Mawr aeth Stephen Tudor i astudio Diwinyddiaeth yn Aberystwyth a Rhydychen a chwblhau gwaith ymchwil yn yr Union Theological Seminary, Efrog Newydd, cyn ei alw'n weinidog yn y Gaerwen, Porthmadog a Moriah, Caernarfon. Cyhoeddodd doreth o ysgrifau a llyfrau gan gynnwys erthyglau, ysgrifau diwinyddol a nofelau ditectif.