Sian Eirian Lewis
Mae Sian Eirian yn fam i ddau o blant, gan gynnwys merch 10 oed, ac yn byw yng Nghaeathro ger Caernarfon. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd yn 2004 a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2005. Mae hefyd wedi wedi cyfrannu at y nofel gywaith Nerth Bôn Braich, ysgrifennu casgliadau o straeon yn hyrwyddo meddylfryd twf i ysgolion cynradd, a dwy nofel i blant.