Eurig Salisbury
Enillodd Eurig Salisbury y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016. Mae'n Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth. Ef oedd Bardd Plant Cymru 2011-13. Rhwng 2006 a 2015, bu'n Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, lle cyfrannodd at sawl prosiect ymchwil ym maes barddoniaeth yr Oesoedd Canol. Mae'n byw gyda'i wraig, Rhiannon, a'u mab Llew, yn Aberystwyth.