Y Llyfr 'Awdurdodol' ar Hanes Boddi Cwm Tryweryn
Mae dwy agwedd ar stori Tryweryn wedi denu sylw penodol pobl Cymru ac wedi ennyn ymateb ganddynt: yr hyn a ystyrir yn gyfiawnhad amheus ar ran Lerpwl dros foddi Cwm Tryweryn, ynghyd â’r gred draddodiadol bod y gymuned Gymraeg yn gytûn yn ei gwrthwynebiad i brosiect adeiladu argae Lerpwl. Mae Tryweryn: A New Dawn? yn herio’r ddau safbwynt cryf yma mewn modd hynod rymus. Trwy gyfrwng defnydd helaeth o dystiolaeth archifol, dengys mai angen gwirioneddol yn deillio o broblem cyflenwi dŵr a diweithdra oedd wrth wraidd penderfyniad Lerpwl i adeiladu argae. Yn ogystal, cyflwynir tystiolaeth argyhoeddiadol sy’n herio’r chwedl ynghylch bodolaeth barn unfrydol ymhlith y gymuned o siaradwyr Cymreig – gyda Thomas yn rhoi llais am y tro cyntaf i’r rheiny o gymuned blaenorol y cwm sy’n teimlo ei bod hi’n hen bryd i’r gwirionedd gael ei fynegi.
Dywedodd Wyn Thomas: “Wedi ugain mlynedd o ymchwil, dwi wedi cyrraedd rhai casgliadau na fydd yn plesio pawb – ond dwi wedi cyfweld nifer fawr o bobl ac wedi ymchwilio’n fanwl i’r pwnc dan sylw. O ganlyniad, credaf fod y gyfrol yn unioni sawl barn sydd eisoes wedi’u sefydlu ynghylch boddi Cwm Tryweryn, ac yn darparu cofnod darllenadwy iawn o’r cyfan a oedd yn gefnlen i’r digwyddiad, ynghyd â gwybodaeth am beth sydd wedi digwydd ers hynny.”
Mae’r gyfrol yn mynd ar drywydd boddi dadleuol Cwm Tryweryn yng Ngogledd Cymru yn yr 1960au er mwyn cynyddu cyflenwad dŵr dinas Lerpwl. Trwy adeiladu argae yng Nghwm Tryweryn, bu i Lerpwl ddinistrio cymuned balch o siaradwyr Cymraeg. Mae ffactorau cymhleth yn llywio digwyddiadau o’r fath, ac mae Tryweryn: A New Dawn? yn cynnig dehongliad cytbwys a manwl o’r boddi cynhennus hwn.