Rhoi fflach o liw ar hanes diweddar pêl-droed Cymru
Mewn cyfnod o gyffro
mawr ym myd chwaraeon, mae llyfr lliwio amserol newydd am bêl-droed Cymru yn
cael ei gyhoeddi gan wasg Y Lolfa. Bydd yn mynd â bryd unigolion o bob oedran,
boed yn blant neu’n oedolion. Rhwng y cloriau, gwelir bwrlwm byw gael ei rewi
ar ffurf delweddau, a’r rhain yn ddelweddau cofiadwy o hanes diweddar pêl-droed
Cymru. I gefnogwyr brwd, mae’n bur debyg bod y delweddau hyn wedi eu serio yn y
cof eisoes, ond mae’r llyfr lliwio hwn yn ychwanegu haen newydd o foddhad a
gwerthfawrogiad i’r sawl sy’n dilyn taith timau pêl-droed Cymru – y dynion a’r
merched fel ei gilydd.
Ceir geirfa o dermau
pêl-droed yn y Gymraeg, ac mae capsiynau’r delweddau, drwyddo draw, yn
ddwyieithog, i helpu pobl ddi-Gymraeg sy’n gwylio’r gemau ar S4C. Bwriad y
darlunydd poblogaidd Anne Cakebread oedd tynnu ar ei phrofiad o gynhyrchu
delweddau chwaraeon a chreu’r llyfr yn seiliedig ar hynny. Mae gan Anne brofiad
helaeth o weithio i gylchgronau Match of the Day, Shoot, Match
a Total Football. Meddai Anne, “Doeddwn i ddim yn cael chwarae pêl-droed
pan oeddwn i’n iau, ond chwaraeais i Merched Castell Caerffili yn fy
mhedwardegau, ac rwy’n rhan o dîm hyfforddi merched iau yng ngorllewin Cymru.”
Afraid dweud bod pêl-droed yn ddylanwad mawr ar ei bywyd, felly, ac mae’r Llyfr
Lliwio Pêl-droed Cymru yn destament i hynny.
Mae Anne Cakebread
hefyd yn awdures ar y gyfres hynod boblogaidd o lyfrau dysgu ieithoedd sy’n
cynnwys y clasuron Teach your Dog Welsh, Teach Your Dog Gog: North Wales
Welsh a Teach your Cat Welsh. Mae hi’n byw yn Llandudoch ac yn rhedeg
Oriel Canfas yn Aberteifi.
To mark
the Wales men’s team enormous achievement in qualifying for the FIFA World Cup,
as well as the increasing popularity of the Wales women’s team, bestselling
author and artist Anne Cakebread has created a colouring book celebrating Welsh
football, published by Y Lolfa, Anne’s illustrations will appeal to both
children and adults and bring to life the
passion and excitement of some of the most memorable moments in recent Welsh
football history. These images are probably
already seared into the memories of die-hard fans, but this colouring book will
be a fun way to ease the tension for those following the journey of both the men’s
and women’s Wales teams.
The
book includes a glossary of football terms in Welsh and the captions are
bilingual throughout, to help anyone who doesn’t speak the language but will be
watch the Wales games on S4C. The popular artist Anne Cakebread has extensive
experience of producing sports illustrations for Match
of the Day, Shoot, Match and Total Football magazines and drew on
this for the book.
Anne
said, “I wasn’t allowed to play football when I was younger, but I played for
Caerphilly Castle Girls in my forties, and I help with coaching a girls’ team
in west Wales.” The Welsh Football Colouring Book is a
testament to Anne’s love of the game.
Anne
Cakebread is also the author of the extremely popular series of language-learning
books, including Teach your Dog Welsh, Teach Your Dog Gog:
North Wales Welsh and Teach your Cat Welsh. She lives in St Dogmaels
and runs Canfas art gallery in Cardigan.
Mae Llyfr
Lliwio Pêl-droed Cymru | Welsh Football Colouring Book gan Anne
Cakebread ar gael nawr (Y Lolfa, £4.99)
Llyfr Lliwio
Pêl-droed Cymru | Welsh Football Colouring Book by Anne Cakebread is
available now (Y Lolfa, £4.99)