Merched Cymru yn Codi Llais

A hithau'n 100 mlynedd ers i rai merched gael y bleidlais ym Mhrydain, mae merched Cymru yn lleisio’u barn ar gyfartaledd a pharch mewn llyfr newydd o’r enw Codi Llais a gyhoeddir gan Y Lolfa.


Yn y gyfrol ceir hanes profiadau 13 o ferched o bob oedran ac o bob rhan o Gymru wrth iddynt drafod yn ddiflewyn ar dafod eu profiadau a’r hyn sydd yn eu gwneud yn ferch fodern yng Nghymru'r 21ain ganrif. Ymysg y cyfranwyr mae Elin Jones AC sy’n edrych ar lwyddiant merched tu ôl i’r llen; Rhiannon Marks sy’n ysgrifennu llythyr at ei merch fach; Lisa Angharad sy’n mynnu gwell addysg i blant yn yr ysgol; Kizzy Crawford sy’n sôn am sut mae ei phrofiadau wedi llywio’i gwaith; ac Elliw Gwawr sy’n siarad am ei phrofiadau yn gweithio yn San Steffan. Golygwyd y gyfrol gan Menna Machreth.


Mae’r gyfrol yn dilyn patrwm Gyrru drwy Storom (Y Lolfa) yn 2015 sy’n trafod iechyd meddwl a Galar a Fi (Y Lolfa) a gyhoeddwyd llynedd sy’n trafod galar  – y ddwy gyfrol wedi bod yn hynod o boblogaidd ac yn delio gyda phynciau anodd a phersonol.


Serch y can mlynedd ers i ganran fechan o fenywod gael pleidleisio, pan gyhoeddwyd yr Adroddiad Pŵer Cymraeg yn ddiweddar, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod gan Gymdeithas Diwygiad Etholiadol, nodwyd y ffaith mewn rhai ffyrdd fod pethau’n mynd am yn ôl. Mae menywod yn cael eu cloi allan o swyddi, dal wedi eu tangynrychioli a chydraddoldeb ymhell o fod wedi ei ennill. Yn Codi Llais, mae Megan Jones, prif gymeriad pennod Y Dihuno, a ysgrifennwyd gan y comedïwraig Siân Harries, yn sylweddoli:
“Y dynion sy ‘di ca’l y llinellau i gyd yn fy mywyd i hefyd”.


Y neges sy’n treiddio drwy gyfraniadau Codi Llais yw bod nifer o frwydrau dal angen eu hymladd. Mae menywod dal i dderbyn llai o dâl na chyd-weithwyr gwrywaidd, ac mae dal agweddau sydd angen gwella, gan fenywod a dynion, er mwyn i bawb gael eu trin gyda pharch a thegwch.


Yn siarad am y sgandal yn San Steffan, mae Elliw Gwawr yn nodi:
“Fe sylweddolais nad oedd yr hyn a ddigwyddodd i fi yn dderbyniol, nac yn anochel oherwydd natur fy swydd. Fyddai o byth wedi digwydd petawn i’n ddyn, felly pam ddylwn i ddioddef am fy mod i’n fenyw?”


Mae Lisa Angharad yn nodi bod yr agweddau gwrth-ffeministaidd yn ddwfn yn ein cymdeithas:
“Dwi, fel pob merch arall, yn dal i wynebu llif cyson o rywiaeth, ar ffurf cyfryngau cymdeithasol, posteri, dramâu a theledu realiti sy’n adlewyrchu’r anghyfartaledd ac yn aml iawn, ni mor gyfarwydd â fe, d’yn ni ddim hyd yn oed yn ymwybodol ohono fe. A dyma sy’n beryglus.”


Mae Codi Llais yn gyfrol gadarnhaol hefyd, sydd yn annog cydweithrediad er mwyn newid yr hyn sydd ei angen - o bethau fel newid polisïau i gefnogi gofalwyr i gael mwy o gydraddoldeb yn y senedd-dai, i sôn am sut i addysgu plant ifanc am barch a chydraddoldeb, pwnc mae Lisa Angharad yn teimlo’n gryf yn ei gylch.

Meddai Menna Machreth yn ei Rhagair: “dwi’n gweld nawr bod angen i famau fod yn ffeminyddion yn y cartref yn ogystal ag yn y byd mawr tu fas.”

Mae ffeministiaeth wedi dod yn bell, ac mae cyfrol fel Codi Llais ond yn bosib oherwydd i ferched godi llais yn ddiweddar i wrthod derbyn parhad yr un driniaeth megis ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol #metoo a #timesup. Fel mae Mabli Jones yn nodi “er mwyn i ffeministiaeth gyflawni ei photensial i chwyldroi ein byd, rhaid i ni frwydro dros ryddid bob un fenyw, a gollwng y mythau sy’n ein gwahanu.”