Merch anturus yn arweinydd cryf mewn stori wyddonias yn nhrydydd rhifyn Mellten
Iola, seren stori 'Rali'r Gofod 4002' sydd yn hawlio sylw yn y rhifyn newydd o gomic Mellten y tro hwn. Mae hi'n beilot anturus o'r blaned Cymru Newydd sydd yn brysur casglu criw o estronwyr rhyfedd i'w helpu ennill cystadleuaeth Rali'r Gofod – ras fwyaf y galaeth. Ond, mae'n darganfod ei hun mewn trwbl gyda'r gafr-heddlu...
Dyma'r trydydd rifyn o'r comic newydd chwarterol poblogaidd i blant Cymru, Mellten.
'Wrth gasglu straeon ar gyfer Mellten, ro'n i'n awyddus iawn i gael stori wyddonias yn ogystal â phrif gymeriad cryf, anturus oedd yn ferch – ac mae Iola yn ffitio'r disgrifiad i'r dim!' eglurodd golygydd y comic a'r cartwnydd, Huw Aaron.
Crewyd comic 'Rali'r Gofod 4002' gan y cartwnydd Joe Watson.
'Mae Joe yn gartwnydd talentog iawn sy'n llwyddo i ddod â lot o hiwmor a jôcs gweledol i mewn i'r stori – yn ogystal â'i sgiliau arlunio gwych,' meddai Huw Aaron. 'Ond a fydd y criw newydd yn gallu dianc? Bydd rhaid i chi ddarllen Mellten i gael yr ateb!'
Wedi ei anelu at blant rhwng 7 ac 13 oed yn bennaf, dyma'r comic Cymraeg gwreiddiol cyntaf i'w gyhoeddi ers degawdau. Wedi ei olygu gan un o gartwnwyr gorau a mwyaf gwreiddiol Cymru, Huw Aaron, mae Mellten yn cynnwys cyfraniadau gan amryw o artistiaid, cartwnwyr ac awduron.
Ymhlith tudalennau'r trydydd rhifyn mae mwy o anturiaethau Gwil Garw – yr arwr o oes cyn hanes a chasglwr angenfilod, sydd yn dod ar draws creadur go arbennig. Ceir mwy o anturiaethau Nefyn a Trefor a dirgelwch yr allwedd hud, a straeon o'r cysgodion gan storïwr dirgel sy'n casglu straeon rhyfedd ein gwlad.
Bydd Bloben yn ceisio colli pwysau, a sut bydd Capten Clonc, arwr hardda'r bydysawd, yn ymateb i ethol Donald Trump fel Arlywydd yr Unol Daleithiau? Ailymunwn hefyd gyda Boc, y ddraig fach druenus, sydd ar goll yng Nghastell Caerffili. Ac a fydd ysgrifennydd gwladol Cymru, Alun Cairns, yn cael gwireddu ei ddymuniad o fod yng nghomic Mellten?
Mae hefyd cyfle arbennig i ennill pentwr o lyfrau, gwerth dros £100.
Bydd y rhifyn nesaf o Mellten yn ymddangos mis Mawrth. Mae modd prynu copïau unigol o Mellten neu gellir tanysgrifio am £8 y flwyddyn drwy'r wefan, ysgolion, siopau llyfrau lleol neu yn uniongyrchol gan wasg Y Lolfa.