Hyn o Fyd
Cyfrol o storïau byrion a gyhoeddwyd gyntaf yn 1963, sy'n cynnwys hoff stori'r awdures ei hun, 'Cathod Mewn Ocsiwn'. Mae'n enghraifft wych o arddull Kate Roberts yn defnyddio'r holl synhwyrau i gyfleu inni'r hyn a wêl mewn hyn o fyd, ac yn gwneud hynny heb unrhyw bregeth.