Mae'r dilyniant hwn i'r nofel rara avis yn pontio dros hanner canrif. Ar ôl cyfnod maith o fyw yn Iwerddon, daw'r awdur b. d. roberts yn ôl i Gymru ar drywydd y bwganod a'i poenydiodd gydol ei phlentyndod a'i harddegau, ac yn ystod ei chyfnod fel myfyrwraig yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Rhannwn ei gofidiau, ynghyd â'r sbort a'r caru a'r casáu – a'r bwlio. Cawn hefyd olwg amgen ar brotestiadau cyffrous y 1960au, dros y Gymraeg ac yn erbyn arwisgo Charles Windsor yn Dywysog Cymru. Pa gyfrinachau a guddiwyd ganddi yn y 'Bwthyn Bach To Gwellt'? Yng nghyfnod jamborîs brenhinol y blynyddoedd diweddar, a fydd hi'n llwyddo i ladd ei bwganod? Ac adeg dathlu geni babi o'r enw George Louis Alexander, a fydd babi o'r enw Branwen Meades yn cynnig llwybr iddi at y sêr?