Aderyn prin rara avis yw Branwen Dyddgu Roberts. A hithau'n byw yn un o gymoedd glofaol y de yn yr 1950au, mae hi'n teimlo 'ar wahân' ac yn 'wahanol' ar sawl cyfri. Mae hi'n blentyn mewnblyg, annibynnol ei natur a phrin ei ffrindiau; yn byw gyda'i mam unig mewn tŷ mawr y tu ôl i wal uchel, yn gwbl ar wahân i'r tai teras o'i gwmpas. Mae ei hiaith yn ei gosod ar wahân mewn ardal Seisnigedig; mae ei chyfrifoldeb am ei mam yn drwm. Ac yn wahanol i bawb arall yn ei byd bach cyfyng, does ganddi ddim tad.
Ar ben y cyfan, hoff le'r ferch fach hon sy'n gwybod y cyfan ond yn deall dim yw mynwent. Yno, gall guddio mewn hen feddau simsan a chreu ei byd bach diogel ei hun.
Trwy gyfrwng bydolwg hynod Branwen a'i lleisiau amrywiol, ddoe a heddiw, dadlennir ei stori ddirdynnol - ond un sydd, trwy'r cyfan, yn byrlymu o hiwmor rhyfeddol.