Os ydy rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, fel rheol mae'n siŵr ei fod o. Dyna ydy un o wirioneddau mawr bywyd, medda nhw.
Ond mae o hefyd yn wir bod eithriad i bob rheol...
Wrth ddilyn trywydd e-bost ddaeth o nunlla, mae Oswyn Felix, landlord y Penrhyn, a'i gyfaill Tegid 'Y Llyn' Lewis, yn cael eu hunain yn y Bermo ac yna ym myd estron a lliwgar peintiadau drudfawr Eidalaidd o gyfnod y Dadeni. Lle mae pobol yn ffugio, yn dweud un peth ac yn meddwl rhywbeth arall - byd llawn angerdd a pherygl.
Caiff y pethau rhyfeddaf eu darganfod yn y mannau mwyaf annisgwyl. O'r Bermo i Bergamo, mae'r cyfan yn ddirgelwch i Felix.
Pam y Bermo? Pam ddim y Bermo?
Dyma'r ail nofel lle mae Oswyn Felix yn plymio i fyd tywyll twyll, dichell a thorcyfraith.