Mae'r gyfrol Sais yn nofel o fewn nofel, oherwydd y mae'r awdur Alun Cob yn gymeriad yn ei gyfrol ei hun; y mae wedi ysgrifennu nofel am ladd Saeson ac mae rhywun allan yna yn mynd oddeutu'n lladd Saeson yn union fel yn y nofel!
Mae'r nofel gyffrous hon yn sicr o ddal dychymyg y darllenydd o'r funud gyntaf y mae'n dechrau darllen.
Fel pob nofel dda, mae tro yn ei chwt, ond ddywedwn ni ddim mwy wrthoch chi na hynny. Wrth i'r nofel fynd yn ei blaen mae nifer y Saeson marw yn cynyddu. RHAID i chi ei darllen hi er mwyn darganfod y gwir.
Mae nofel feiddgar a dyfeisgar Alun Cob yn gwthio ffiniau realiti ac yn chwip o stori yn y fargen.