Cyfres Swigod: Y Rali Fawr
Mae Henri, 12 oed, yn llywiwr mewn rali am y tro cyntaf gyda Dai Penywaun. Ond daw helbul i'w rhan - damweiniau wrth daro mochyn daear a gât fferm, asyn yn gwrthod symud o ganol yr hewl ac ar ben popeth mae'n dechrau bwrw eira. A wnawn nhw orffen y rali, tybed?