Mae Beca a Siani'n hynod o brysur. Rhaid paratoi ar gyfer y Parti Bwci Bo, hyfforddi Siani i dynnu sled Santa ym mhantomeim yr ysgol ac addurno het ar gyfer sioe Nadolig y Clwb Poni.
Ond druan â Rhys. Mae e wedi cael ei anafu wrth gwympo oddi ar gefn Aneurin yr asyn ac mae e wedi cael llond bol ar glywed pobl yn canmol ei chwaer a'r hen Shetland 'na o hyd ac o hyd. Bydd rhaid meddwl am ffordd i newid pethau...
A fydd y Nadolig hwn yn un llawen i Beca a Siani?
Dyma'r drydedd stori yng nghyfres Siani'r Shetland.