Y Llyfrgell - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2009
Ar fore oer o Chwefror, yn y flwyddyn 2020, mae Dan, un o borthorion Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wrthi'n cyflawni ei drosedd arferol yn erbyn y gyfundrefn. Mae'r nofel hon yn trawsnewid gofod tangnefeddus y Llyfrgell Genedlaethol yn set theatrig llawn posibiliadau. Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau, 2009.