Adolygiadau
Cyfrol mor graff a gloyw â'r lleuad ei hun.
- Ceri Wyn Jones
Cyfrol anodd i'w rhoi i lawr.
- Manon Steffan Ros
Mae'r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth ddifyr o bynciau a fydd yn apelio at amrediad eang o ddarllenwyr, gan ein gwahodd i ystyried ein Lloerganiadau ni ein hunain… mae Fflur Dafydd yn cynnig cip didwyll inni ar y profiadau a'r perthnasau sydd wedi cyfrannu at siapio'i hunaniaeth, wrth iddi fyfyrio ar sut mae gwawl arian y lleuad wedi goleuo'I llwybr personol.
- Elen Ifan, Cylchgrawn Barn
Cadwyn o ysgrifau... Cyfrol ardderchog.
- Elinor Wyn Reynolds, Dewi Llwyd ar Fore Sul, Radio Cymru
Dyma gyfrol gyfareddol, wedi ei hysgrifennu'n gywrain a darllenadwy; mae'r iaith yn cyfnewid ac yn ymlunio fel y lloer, yn eang ac yn ddwys-gryno yr un fath. Mentrwn ddweud taw ysgrifau sydd gyda ni fan hyn, yn hytrach na phenodau, ac mae'r arddull ysgrifol yn caniatáu'r ymrithio cynhyrfiol a welwn drwyddi draw. Yma, daw gwefr a llonyddwch ynghyd, ac mae'r effaith yn aros gyda rhywun. Yn yr un modd ag y mae'r awdures yn cyfarch Silas Evans tua diwedd y gyfrol: sic itur ad astra.
- Morgan Owen, O'r Pedwar Gwynt
Llongyfarchiadau enfawr, Fflur Dafydd ar Lloerganiadau – gyfrol gywrain o gofiadwy! Arbennig iawn! A gwych gweld genre newydd yn y Gymraeg hefyd!
- Gareth Evans Jones, Trydar
Hen air yn Shir Gâr am y lleuad yw'r 'ganniad' – dyna air cain, un sy'n llawn canu. Ac mae cyfrol Fflur Dafydd yn llawn ceinder a chân hefyd, y lloer-ganiadau... Planed o gyfrol yw hi, un sy'n pefrio arnom. Mynnwch gopi a'i darllen – mae tu hwnt i'r byd hwn.
- Elinor Wyn Reynolds, Western Mail Weekend Magazine