Yn dilyn llwyddiant "Like It Is", dyma ail gyfrol yn hunangofiant Chris Needs. Cawn ragor o hanesion digri, trasig a dadlennol y diddanwr a chyflwynwr BBC Radio Wales.
Cawn hanes dyddiau cynnar ei yrfa, ei atgofion chwerw-felys am ei fam, ei berthynas a Chymru, teithiau hunllefus i'r Iseldiroedd, Majorca a'r Unol Daleithiau, derbyn llythyron cas a llythyrau yn bygwth ei fywyd - a'i obeithion, ei gariadau a'i ofnau. Mae'r storiau yn ddoniol, yn onest ac yn dwymgalon - fel y dyn ei hun.
Mae'r gyfrol yn cynnwys darnau o "Living with Chris Needs" gan ei bartner, Gabe Cameron.