Chris Needs: Highs and Lows
Pan fu Chris Needs yn ddifrifol sâl o ganlyniad i sgil-effeithiau ei feddyginiaeth, daeth ei ffrindiau a'i wrandawyr ynghyd i fod yn gefn iddo. Mae'r llyfr hwn yn croniclo'r dirywiad yn ei iechyd, ei ofn y byddai'n colli ei yrfa yn y byd darlledu fel roedd ei lais yn pallu, a'i anesmwythder wrth feddwl na fyddai'n gallu perfformio ar lwyfan fyth eto. Yma mae Chris yn agor ei galon.