Llywelyn ein Llyw Olaf oedd Tywysog olaf Cymru rydd, a hynny 800 mlynedd yn ol. Ef oedd yn arwain y brwydro yn erbyn Edward, Brenin Lloegr, a'i fyddin ac roedd y ddau yn elynion pennaf. Mae hanes y rhyfela ffyrnig yn waedlyd.
Priododd Llywelyn ag Eleanor, o Ffrainc, a bu eu priodas yn llawn helyntion, gan arwain at ddiweddglo trist.
Ar 11eg o Ragfyr 1282, arweiniodd Llywelyn fyddin Cymru i ardal Llanfair-ym-Muallt i ymladd yn erbyn milwyr Edward ond colli fu eu hanes.
Dyma gofnod cyffrous o gyfnod cythryblus a phwysig yn hanes Cymru. Mae'r awdur yn portreadu bywyd yr arwr mewn 14 pennod ac mae lluniau Margaret Jones yn ychwanegu fflachiadau llachar i'r disgrifiadau byw.