Y mae Gwyn Thomas yn Athro Emeritws a chyn-Bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor; y mae'n fardd, yn un sydd wedi cyhoeddi'n helaeth ar iaith a llên Cymru, ac yn gyfieithydd. Yn ystod ei gyfnod fel Prif Arholwr Safon Uwch Cymraeg: Iaith Gyntaf CBAC fe gyhoeddodd lyfr dan y teitl "Ymarfer Ysgrifennu" (1977) i gynorthwyo ymgeiswyr ag elfen iaith y papur arholiad. 'Dyw'r llyfr hwnnw ddim mewn print ers tro byd, a bu gofyn amdano gan amryw athrawon, myfyrwyr, a chyfieithwyr.
Dyma "Ymarfer Ysgrifennu Cymraeg", sef argraffiad newydd, hirddisgwyliedig o'r llyfr hwnnw. Wrth ei baratoi â Phrif Arholwr Uwch Gyfrannol a Safon Uwch Cymraeg: Iaith Gyntaf presennol CBAC, Manon Wyn Sion; hi a wyddai orau am y mathau o bethau sy'n digwydd yn ysgrifennu'r ymgeiswyr arholiad ar hyn o bryd. Gyda'r tîm cadarn hwn wrth y llyw felly, mae'r fersiwn diwygiedig hwn i'w groesawu gan ymgeiswyr wrth baratoi ar gyfer eu haroliad, ac eraill sydd am geisio gwella'u Cymraeg ysgrifenedig.