Ydych chi'n hoffi chwarae â geiriau? Efallai eich bod wedi dysgu Cymraeg? Dyma gyfrol o farddoniaeth sy'n trin geiriau mewn ffordd ddifyr iawn ac yn agor drysau dychymyg led y pen. Profiadau dysgwyr ar y daith lenyddol yw thema llawer o'r cerddi yn y llyfr hwn. Yn sicr, bydd unrhyw un sydd wedi dysgu Cymraeg yn gallu uniaethu â'r cynnwys. Ond taith yw iaith i bob un ohonon ni, ac mae darganfod geiriau newydd, a gweld cysylltiadau newydd rhwng geiriau, yn brofiad gall pawb ei gael wrth ddarllen barddoniaeth. Yn wir, mae fel mynd am dro yn y wlad a dod ar draws enwau pentrefi newydd ar y ffordd a gweld mynegbyst i lefydd diddorol eraill. Dyna beth sy'n gwneud dysgu iaith, a dysgu am yr iaith, yn brofiad mor gyffrous. Nid llyfr i 'ddysgwyr' yn unig yw hwn, felly, ond llyfr i bawb sy'n mwynhau'r Gymraeg; mwynhau trin a thrafod geiriau, a thrwy hynny, gyfoethogi ei iaith