Menna Elfyn
Mae Menna Elfyn yn byw yng Nghaerfyrddin Mae hi'n fardd, yn ddramodydd, yn libretydd ac yn golofnydd gyda'r Western Mail.
Hi yw Cyfarwyddwr gradd MA Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin.
Cafodd ei gwaith ei berfformio, wedi ei osod i gerddoriaeth gan y cerddor bydenwog, Karl Jenkins, yn agoriad swyddogol Canolfan y Mileniwm, Caerdydd, yn 2004.
Yn ogystal mae'n gweithio fel bardd ym mhedwar ban y byd - derbyniodd wahoddiadau i deithio i Simbabwe, Albania, Lithwania, yr Eidal ac Unol Daleithiau America a chyfieithwyd ei gwaith i dros 15 o ieithoedd
LLYFRAU GAN YR AWDUR
1-6 o 8 | 1 2 | |
Cyntaf < > Olaf |