Mae arfordir Cymru yn rhan o'r rheswm pam ein bod ni'n dal yma. Ar hyd yr arfordir hwn yr ymsefydlodd ein cyndeidiau pell filoedd o flynyddoedd yn ôl, gan adael eu treceiri o Forgannwg i Fôn, a'r arfordir hwn oedd eu cwmpawd wrth i'r brodorion cynnar fasnachu ag Iwerddon a chyfandiroedd y tu hwnt i'r gorwel. Mae'r arfordir yn cadw cyfrinachau'r teithiau cynnar hynny, heb sôn am holl deithiau'r morwyr a'r carnladron, yr ymfudwyr a'r cenhadon a fentrodd o'r glannau hyn, a thorri ar dir newydd. Mae hefyd yn tystio i'r tonnau o wledydd eraill a laniodd ar ein traethau. Ond nid peth sefydlog mo'r nodwedd arbennig hwn o'r tirlun; fel pobl ac iaith Cymru, mae'r arfordir hefyd yn newid ac yn datblygu drwy'r amser-o'i ran ei hun ac o dan ddylanwad grymoedd allanol. Ac yn y dyddiau sydd ohoni, yn llawn sôn am gynhesu bydeang a'r bygythiad o'r môr, daw ein perthynas amwys â'r arfordir yn fyw i ni fel yr oedd i'n cyndeidiau.
Bwrw golwg newydd ar yr arfordir cyfnewidiol hwnnw wna'r gyfrol fendigedig hon, trwy gyfrwng ffotograffau Aled Rhys Hughes a cherddi Iwan Llwyd, yn ogystal â lloffion o ddyfyniadau dethol o goffrau diwylliant a llên gwerin ein harfordir. Mae llygad y bardd a'r ffotograffydd yn cyfuno i greu darlun newydd, cyfoes sy'n dathlu holl harddwch a hagrwch glan y môr, holl hanes a chyfoeth arfordir Cymru - a'n perthynas ni fel pobl Cymru â'r amddiffynfa fygythiol sy'n ein hamgylchynu. Yng ngeiriau Nantlais,
'... rhywbeth fel yna yw bywyd, medd Twmi,
Rhyw deid yn dod miwn a theid yn mynd mas.'