Adolygiadau
Dyma waith sensitif, myfyriol, dadansoddol a gonest sy'n cynnwys hiwmor tawel. Cefais flas mawr arno.
- Menna Baines
Dyma berl o gyfrol sy'n dartio rhwng Berlin a Chaernarfon ac yn gofnod tyner a threiddgar o gyfnod o newid mawr ym mywyd yr awdur. Wrth ddathlu'r bendithion bychain a chwerthin ar hynodion bywyd, cawn ein tynnu i mewn i gynhesrwydd y teulu a darganfod hefyd yn ei gwmni y pleser, y dieithrwch a'r perthyn graddol o ddod i adnabod dinas a sefyllfa newydd. Drwy'r cyfan mae myfyrdodau ffraeth a gwreiddiol y llystad hwn y pefrio.
- Llŷr Gwyn Lewis
Mae yna hud yng ngeiriau'r awdur a gorfoledd amlwg mewn trin geiriau. Llwydda i grisialu rhai o wirioneddau mawr bywyd yn syml ac yn gynnil, gan wynebu cwestiynau heriol a phersonol. Rhaid nodi mor braf ydyw gweld dyn yn pwyso a mesur teimladau ac emosiynau yn agored ac yn onest yn y modd hwn... Dyma gyfrol hawdd ei darllen a'i mwynhau, sy'n chwa o awyr iach am fôr o resymau.
- Manon Gwynant, Cylchgrawn Barn
...mor gynnes a gonest a sensitif a doniol a 'di 'sgwennu'n dda.
- Bethan Gwanas, Podlediad Colli'r Plot
Darllenwch Trothwy.
- Sian Northey, Podlediad Colli'r Plot
Mae jyst yn briliant, mae'n gampwaith! Mae jyst yn ffantastig o lyfr!
- Aled Jones, Podlediad Colli'r Plot
Mae'r gyfrol hon yn wych.
- Jo Heyde, Trydar / X