Iwan Rhys
Magwyd Iwan Rhys ym Mhorthyrhyd, Cwm Gwendraeth. Adnabyddir ef fel bardd. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd ddwywaith; yn 2001 ac yn 2008. Bu'n rhan o'r daith farddol Crap ar Farddoni yn 2006 gyda Catrin Dafydd, Hywel Griffiths, Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury. Mae'n aelod o dîm talwrn Dros yr Aber a thîm Y Deheubarth yn Ymryson yr Eisteddfod Genedlaethol. Ef yw awdur y gyfrol Eleni Mewn Englynion. "Y Bwrdd" yw ei nofel gyntaf.